
Hello
Marian Puw
About Me
Helo, Marian ydw i, cwnselydd person-ganolog cymwys ac aelod cofrestredig o'r BACP.
Rwy'n cynnig gofod diogel,cefnogol ac anfeirniadol lle gallwch archwilio beth bynnag sy'n digwydd yn eich bywyd ar gyflymder sy'n addas i chi.
Rwy'n gweithio gydag oedolion, pobl ifanc a phlant sy'n profi amrywiaeth o anawsterau, gan gynnwys gorbryder, galar a cholled, iselder, hunan-barch isel, materion hunaniaeth, ADHD, Awtistiaeth, anawsterau bwyta ac effaith trawma a phrofiadau cynnar.
Mae fy null yn seiliedig ar werthoedd person-ganolog ac wedi'i lywio gan dros 30 mlynedd o brofiad ym maes addysg fel athrawes a Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ynghyd â Diploma mewn Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma.
Fel ymarferydd ‘Drawing and Talking’ cofrestredig ac ymarferydd sydd wedi'i hyfforddi mewn therapi LEGO® (ABC,Brick-by-Brick), rwy'n defnyddio dulliau creadigol ac ystyriol o drawma, gan gynnwys gwaith cafn tywod, ymwybyddiaeth ofalgar a’r techneg ‘Rewind’ , pan fo hyn yn briodol.
Hello, I'm Marian, a qualified person-centred counsellor and registered member of the BACP.
I offer a warm, supportive and non-judgmental space where you can explore whatever is going on for you at your own pace.
I work with adults, young people and children experiencing a range of difficulties, including anxiety, grief and loss, depression, low self-esteem, identity issues, ADHD, Autism, eating difficulties, and the impact of trauma and early life experiences.
My approach is grounded in person-centred values and informed by over 30 years' experience in education as a teacher and Additional Learning Needs Coordinator (ALNCo), alongside a Diploma in Trauma-Informed Practice.
As a registered Drawing and Talking Practitioner and LEGO®-based therapy (ABC Brick-by-Brick) trained practitioner, I also use creative and trauma-informed approaches, including sandtray work, mindfulness and the Rewind Technique, where appropriate.
.png)
